|
DYFARNIADAU
CYMRU GREADIGOL 2008
Neithiwr, (nos Iau, 6 Mawrth), cafodd 16 o artistiaid proffesiynol ar
draws y ffurfiau gwahanol ar gelfyddyd Ddyfarniad Cymru Greadigol gan
Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC), mewn derbynwest a gynhaliwyd yn The Point
ym Mae Caerdydd. Mae Dyfarniadau Cymru Greadigol yn cydnabod y dalent
orau a photensial artistiaid unigol Cymru.
Caiff Dyfarniadau Cymru Greadigol eu hariannu gan CCC ac maent yn cynnig
hyd at £25,000 bob blwyddyn, ac yn 2007/08, dyfarnwyd bron i £300,000
i 16 o artistiaid. Mae'r dyfarniadau yn sicrhau bywoliaeth i artistiaid
am gyfnod, gan roi'r cyfle iddynt arbrofi, torri tir newydd, a datblygu
eu gwaith. Dyma gyfle i fyfyrio, arallgyfeirio, mentro - a chael eich
gwynt atoch.
Mae Dyfarniadau Cymru Greadigol yn cael eu hariannu drwy'r Loteri Genedlaethol
ar hyn o bryd, ac maent yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol gan CCC i
artistiaid unigol sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Nod y Dyfarniadau
yw datblygu rhagoriaeth a sicrhau cynaliadwyedd yn y celfyddydau drwy
gefnogi artistiaid i ddatblygu'n broffesiynol.
Mae David Alston, Cyfarwyddwr Celfyddydau CCC, yn cadeirio'r panel o swyddogion
Cyngor y Celfyddydau, Ymgynghorwyr Cenedlaethol a Phanelwyr Academi sy'n
beirniadu Dyfarniadau Cymru Greadigol.
Cyfeiriodd David Alston at y safon uchel eithriadol ymhlith y rhai a gafodd
ddyfarniadau eleni:
"Roedd gan y panel dasg drom, ond pleserus iawn hefyd. Mae gan Gymru
nifer o artistiaid sy'n gwthio'r ffiniau. Dyna'r hyn y gall dyfarniad
Cymru Greadigol ei gynnig - cyfle i unigolion archwilio fel y gall maes
y celfyddydau elwa'n gyffredinol. Eleni, gwelsom syniadau gwych ar draws
y ffurfiau ar gelfyddyd, gyda'r addewid o waith newydd ym maes ysgrifennu,
y crefftau, y celfyddydau gweledol, dawns, cerddoriaeth, ac ym maes drama,
sy'n gwbl hanfodol ar hyn o bryd."
Y rhai a gafodd Ddyfarniadau Cymru Greadigol 2007/08 oedd:
PRIF WOBRAU CYMRU GREADIGOL:
Celfyddydau Cymhwysol a Chrefft: Walter Keeler
Celfyddydau Gweledol: Tim Davies, Anthony Shapland, André Stitt
Dawns: Darius James
Drama: Tim Baker, Kaite O’Reilly
Llenyddiaeth: Menna Elfyn, Robert Minhinnick
DYFARNIADAU CYMRU GREADIGOL:
Celfyddydau Gweledol: Richard Powell, John Rowley
Cerddoriaeth: Richard James, Jeremy Huw Williams
Drama: Gary Owen, Ian Rowlands
Llenyddiaeth: Richard Gwyn
Yn y derbyniad, bu tua 200 o westeion yn mwynhau band Jazz Paula Gardiner
a ffilm ddogfen fer, a gomisiynwyd gan Jon Gower o Boomerang, a oedd yn
cyflwyno gwaith ac uchelgeisiau artistiaid y Prif Wobrau Cymru Greadigol.
Bu'r Athro Dai Smith, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru yn llongyfarch
artistiaid a fu'n llwyddiannus eleni ac a gafodd ddyfarniadau Cymru Greadigol:
"Mae Dyfarniadau Cymru Greadigol yn un o uchafbwyntiau calendr y
celfyddydau yng Nghymru. Mae CCC yn credu mewn cymryd risgiau a does dim
yn fwy cyffrous na buddsoddi yng nghreadigrwydd yr unigolion hynny sy'n
sicrhau bod y celfyddydau yn ein difyrru a'n herio ni fel cymdeithas ddeinamig.
Mae'r ffyrdd y gallwn elwa ar y buddsoddiad hwn gan CCC yn niferus. Byddwn
yn parhau i sicrhau bod y cyfle a'r amser hwn ar gael i ddatblygu'r talentau
eithriadol hyn".
Gan gyflwyno'r dyfarniadau, dywedodd Rhodri Glyn Thomas AC, y Gweinidog
dros Dreftadaeth:
“Mae'r celfyddydau wrth wraidd y gwaith o feithrin hyder Cymru greadigol
a sicrhau y cawn ein cynrychioli ar lwyfan y byd. Mae'n bwysig i'r Diwydiannau
Creadigol yng Nghymru ein bod yn buddsoddi mewn artistiaid unigol, gan
fod y gefnogaeth hon yn rhoi'r cyfle iddynt arbrofi a chreu gwaith arloesol,
arbrofol newydd sy'n cyfoethogi'r ffurfiau ar gelfyddyd".
Mae manylion llawn y rhai a gafodd Ddyfarniad Cymru Greadigol 2007/08
yn cynnwys y ffilm ddogfen, gwybodaeth gefndirol, nodiadau bywgraffyddol
a manylion am eu prosiectau ar gael ar ficro-wefan Dyfarniadau Cymru Greadigol
www.celfcymru.org.uk/cymrugreadigol.
|
CREATIVE
WALES
AWARDS 2008
Last night, (Thursday, 6 March), 16 professional artists from across the
arts disciplines received a Creative Wales Award from The Arts Council of
Wales, (ACW), at a reception held at The Point in Cardiff Bay. Creative
Wales Awards recognise the very best talent and potential of individual
Welsh artists.
Funded by ACW, Creative Wales Awards of up to £25,000 are available
for Welsh artists every year and for 2007/08, 16 artists have been awarded
nearly £300,000. The awards guarantee artists an income for a period,
enabling them to take time out to experiment, innovate, and take forward
their work. It’s a chance to think, to branch out, to take risks –
room to breathe.
Currently funded through the National Lottery, the Creative Wales Awards
represent a significant investment by ACW in individual artists living and
working in Wales. The Awards aim to develop excellence and to build sustainability
in the arts by supporting artists in their professional growth.
David Alston, Arts Director for ACW, chairs the panel of Arts Council officers,
National Advisers and Academi Panellists who adjudicate the Creative Wales
Awards. David commented on the exceptional high standard amongst this year's
recipients:
“The panel had an onerous but extremely enjoyable task. Wales has
many artists who are pushing the boundaries. That is essentially what a
Creative Wales award can make possible – an exploratory space for
an individual from which the arts as a whole will benefit. This year saw
great ideas right across the art forms with the prospect of new work in
writing, the crafts, visual arts, dance, music and very strongly, and critically
at this time, in the area of theatre.”
The recipients of the Creative Wales Awards 2007/08 are:
CREATIVE WALES MAJOR AWARDS:
Applied Arts and Crafts: Walter Keeler
Visual Arts: Tim Davies, Anthony Shapland, André Stitt
Dance: Darius James
Drama: Tim Baker, Kaite O’Reilly
Literature: Menna Elfyn, Robert Minhinnick CREATIVE WALES AWARDS:
Visual Arts: Richard Powell, John Rowley
Music: Richard James, Jeremy Huw Williams
Drama: Gary Owen, Ian Rowlands
Literature: Richard Gwyn
At the Award reception, some 200 guests were entertained by Paula Gardiner’s
acclaimed Jazz band and a short documentary film, commissioned from Jon
Gower of Boomerang, presenting the work and ambitions of the Major Creative
Wales artists.
Professor Dai Smith, Chairman of ACW, congratulated this year's successful
Creative Wales artists:
“The Creative Wales Awards are one of the high points of the arts
calendar in Wales. ACW believes in risk taking and nothing is more exciting
than to invest in the creativity of those individuals who make the art
that delights and challenges us as a dynamic society. The return on this
investment by ACW is manifold. We will continue to make the space and
time available for the development of these dazzling talents”.
Presenting the awards,Rhodri Glyn Thomas, AM, Minister for Heritage, said:
“The arts are at the heart of developing the confidence of a creative
Wales and our projection on a world stage. It is important to the Creative
Industries in Wales that investment is made in individual artists, as
this support enables them to take time out to create new, experimental
and innovative work that enriches art forms and artistic practice”.
Full details of all the Creative Wales Award recipients 2007/08 including
the documentary film, background information, biographical notes and project
details are available on the Creative Wales Awards micro-site www.artswales.org.uk/creativewales
|
|
|