.

Cyfrolau | Published Work

 

Perffaith Nam

Er Dy Fod

Cyhoeddir gan Gomer
£6.99

Menna Elfyn yn chwarae 'da geiriau

Adolygiad Linda Edwards

Ar dudalen flaen y gyfrol hon gwelir y geiriau:
Cerddi gan Menna Elfyn
I ddathlu dysgu iaith
Profiadau dysgwyr
A phrofiadau dysgwyr wrth ddysgu Cymraeg oedd y sbardun iddi fynd ati i greu'r gyfrol.

Meddai: "Fe sylweddoles i un diwrnod fod gen i fwy o ffrindiau sy'n ddysgwyr neu sydd ddim yn medru'r Gymraeg, nag sydd gen i o Gymry Cymraeg. Ac yn aml iawn mae ffrindiau'n gyrru e-byst ata i'n gofyn beth yw ystyr gair penodol....ac o hynny dechreues i feddwl am y pontio yna, y ddeialog honno sy'n mynd ymlaen rhwng rhywun sy'n siarad un iaith a rhywun sy'n siarad iaith arall."

Mae'r rhelyw o'r cerddi felly yn gerddi ysgafn a doniol wedi eu hysbrydoli gan ffrindiau sy'n dysgu'r iaith- er enghraifft mae'r gerdd Chutzpa wedi dod i fod ar ôl i ffrind ddweud wrthi:
"I want to be outrageous in Welsh."
ac eisiau dweud pethau mwy heriol na'r hyn a ddysgid iddi ar gwrs Wlpan fel "Dwi'n hoffi coffi".

Beth am Dwi'n hoffi Wisgi Gyda tecila A'i yfed ym Manila
Un arall wedyn yn trin a thrafod sawl ffordd sydd yna o ddweud 'Yes' a 'No' yn y Gymraeg ar ôl i ddysgwr yn Noc Penfro ofyn "How many ways do you need to say 'yes' and 'no' in Welsh?"

Un arall eto - Tyddyn wedi codi o'r ffaith na allai'r bardd Gillian Clarke ddweud 'Tyddyn' ac yn dweud yn hytrach 'Ty Dyn', a'r hwyl gododd o hynny.

Hwyl eto yn y gerdd Oergell wrth i ddysgwr ddweud ei fod yn cadw llyfrau yn yr 'oergell' yn lle 'llyfrgell'.

Nid gwneud hwyl
Ond nid gwneud hwyl am ben dysgwyr mae Menna ond, yn hytrach, uniaethu â hwy- fel y dywed ei hun:
"Dwi'n cael gwahoddiad i fynd i ymweld â sawl gwlad, naill ai i ddysgu neu i ddarllen fy marddoniaeth, ac yn aml yn canfod fy hun mewn gwlad dramor ble nad ydwi'n deall yr iaith, felly rwyf yn gallu uniaethu â phrofiadau dysgwyr."

Nid profiadau dysgwyr yw'r unig symbyliad yn y gyfrol chwaith gan fod hoffter Menna ei hun o drin geiriau yma hefyd fel y gwelir yn Geiriannu, Er Dy Fod, 38 Gair Am Gariad, ac mae'n gallu cyfleu'r hoffter hwnnw i'r darllenydd yn gelfydd o syml a'i sbarduno yntau i gael yr un hoffter.
Mae rhai cerddi hefyd yn ymdrin â materion mwy dwys, rhai am Gymru a thynged yr iaith. Hoffaf yn fawr ei cherdd i Gaerdydd:

Lle yw hwn, i'r lliaws o bob llais.
ac mae'r bwrlwm a'r miri yma i'r dim.
Hefyd, hoffais Rhad ac am Ddim, Cymro Amddifad, Tynged yr Iaith, Rhowch imi Wlad, a Gwybod y Treiglad heb Adnabod y Gair.

Y byd
Mae eraill o'r cerddi yn ymdrin â sefyllfa'r byd cyfoes- Pen yn ymdrin ag unbeniaid amlwg ac yn diweddu:
Boed ben mawr neu'n ben bach
Boed yn unben neu'n anniben;
Daw'r lli a daw penllanw.

Libanus, Y Pwll 2006, wedyn, wedi eu llunio yn anterth y brwydro yn haf 2006; a Golau yn Olauwedi dod i fod wrth feddwl am y byd yn cynhesu. Tair cerdd sy'n pigo cydwybod ac yn aros yn y cof.

Celfydd a syml
Beth bynnag fo 'r symbyliad tu ôl i'r cerddi maent i gyd wedi eu sgwennu'n gelfydd o syml, yn hawdd i'w deall, yn gafael yn y dychymyg, yn rhoi golwg newydd ar, ac yn dathlu iaith.

Fel y dywed Gwyneth Lewis:
"Mae ein dyled yn fawr i Menna Elfyn gan ei bod hi wrthi adnewyddu ein Cymraeg trwy ei defnyddio fel offeryn sy'n llwyr atebol i gymhlethdodau bywyd yr unfed ganrif ar hugain."

Ewch ati i ddarllen y gyfrol- fe ail fagwch gariad at eiriau, mi chwarddwch gyda rhai, cael eich pigo gan rai, a meddwl yn ddwys am eraill.
Fe fwynhewch y cyfan, ac fe erys rhai cwpledau yn y cof am byth.



Gellir darllen adolygiad o'r gyfrol ar wefan Llais Llên drwy glicio yma