Mae ein dyled yn fawr i Menna Elfyn gan ei bod hi wrthi'n adnewyddu ein Cymraeg trwy ei defnyddio fel offeryn sy'n llwyr atebol i gymhlethdodau bywyd yr unfed ganrif ar hugain. Mae wedi gosod ffrwydriad wrth droed clogwyn y Gymraeg gan roi defnydd i ni adeiladu hewlydd allan o'r cyfyng-gyngor moesol a gwleidyddol. Gwyneth Lewis Mae'n anodd meddwl am unrhyw fardd arall yn y Gymraeg sydd wedi gwneud cymaint â Menna Elfyn i gyfleu a dadansoddi profiadau a theimladau merched (a phobl o bob math) yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, yn ddigyfaddawd ac eto'n dyner. Ceridwen Lloyd Morgan |