 |
Un
o feirdd mwyaf llwyddiannus Cymru, a Chymraes sy'n adnabyddus ledled y
byd erbyn hyn, diolch i'w theithiau tramor niferus, yw Menna Elfyn.
Mae'r bardd o Landysul, sy'n adnabyddus oherwydd iddi gyhoeddi llawer
o'i cherddi'n ddwyieithog, yr un mor boblogiadd gyda darllenwyr di-Gymraeg
â chyda'r Cymry Cymraeg.
Wedi teithio i bedwar ban byd a mentro tu hwnt i lwybrau twristaidd gwledydd
pur ansefydlog, mae Menna yn ymgyrchwraig frwd dros hawliau merched a'r
lleiafrifoedd ledled y byd, yn enwedig plant. Ble bynnag y bydd
hi'n teithio, mae'n ceisio cael argraff real o wlad, sut mae tlodion,
pobol anffodus a lleiafrifoedd yn byw, a pha broblemau sy'n dod i'w rhan.
Dyma a'i hysgogodd i ysgrifennu ei nofel, Rana Rebel.
'Mae pob cymdeithas wedi anwybyddu hawliau sylfaenol plant i gael
eu clywed, eu credu, eu parchu... nid eiddo mohonynt.'
|