Un o'r goreuon yn Ewrop

Mae'r bardd Menna Elfyn yn teithio â'i gwaith i bedwar ban byd. Mae'r gyfrinach yn y ffordd y mae'n cyfieithu ei cherddi, yn ôl Deryn Rees-Jones…

Mae Menna Elfyn yn dechrau Cusan Dyn Dall, ei thrydedd gyfrol ddwyieithog a'r ail gyda gwasg Bloodaxe Books, gyda gair o ddiolch i'w chyfieithwyr: y bardd Americanaidd Joseph Clancy, Gillian Clarke, Tony Conran, Nigel Jenkins ac Elin ap Hywel.

Meddai, "Mae eu gallu nhw i ail-greu y cerddi hyn mewn iaith arall, yn rhoi cyfle i mi allu gwthio ffiniau yr hyn sy'n bosib ei gyfieithu, ac yn fy ngalluogi i i greu helfa drysor gyda chwilotwyr awyddus sydd weithiau'n gweld mwy nag y byddai'r bardd yn fodlon ei gyfadde'."

Mae'n mynd yn ei blaen: "Mae unrhyw driciau tanllyd gen i yn cael eu boddi yn nhân eu gallu hwy."

Eto'i gyd mae Menna Elfyn yn ymwybodol iawn o anawsterau cyfieithu, a'r hyn sy'n rhaid ei wneud wrth gyfieithu.

Mae'r casgliad o gerddi'n gorffen gyda'r gerdd 'Cusan Hances' sy'n cynnwys sylw gan RS Thomas: "Mae cerdd mewn cyfieithiad fel cusan drwy hances."

Ond mae Menna Elfyn yn mynd ati i'w ateb yn hapus: "A mynnaf hyn / A fo cerdd bid hances / ac ar fy ngwefus // sws dan len."

Mae Menna Elfyn yn fardd o ymrwymiad gwleidyddol clir, ac mae ei hymrwymiad i Gymru yn amlwg. Mae nifer o'r cerddi yn ymateb i ddigwyddiadau neu'n straeon o bapurau newydd, neu'n deillio o'i theithiau eang fel sgrifennwr.

Mae ei safwe yn rhestru ei theithiau nesa' rhwng Cymru, Brwsel, Galicia, Romania, Prâg a Phortiwgal y gwanwyn hwn. Mae'r casgliad hwn o'i barddoniaeth yn ei gweld yn symud yn rhwydd rhwng Cymru, yr Unol Daleithiau, Fietnam, yn ogystal â'r llefydd bychain hynny yn y dychymyg.

Yn y gyfrol Cusan Dyn Dall, mae yna deimlad powld, hapus, weithiau'n epigramatig, ac mae'r cyfan wedi'i wreiddio'n ddwfn mewn teimlad o hunaniaeth, yn bersonol ac yn genedlaethol.

Mae'r gerdd 'Dim ond Carnedd' yn engraifft o Menna Elfyn ar ei gorau, ac o linell ola'r gerdd honno y daw teitl y gyfrol.

Mae yna is-bennawd i'r gerdd hon – "wrth ddarllen am y diwydiant dillad isaf". Mae'n awgrymu fod cerdd ysgafn a doniol i ddilyn.

Ond yn hytrach, mae'r gerdd yn fyfyrdod estynedig ar ddillad, ar y fenyw ac ar y corff, rhyddhau dychymyd, y cysylltiad rhwng cyfalafiaeth cenedl, hanes, rhywioldeb, yn bersonol ac yn gyhoeddus.

Mae hi mor anodd dyfynnu o'r gerdd hon gan ei bod hi'n gweithio mor brydferth yn ei chyfanrwydd, ond dyma'r tri pennill cynta':

Mor ardderchog yw gwisg ordderch
ein dychymyg. Tryloywa'n llaes, sideru
gwrthbanau trwm ar bostyn y gwely.

ac ar ôl dior yr atgof digri
am staes mam-gu yn gwrido nôl
arnaf, asennau crog fel lladd-dy dynol,

daw genethod sidanaidd i'r meddwl:
sleifio ar gynfas, dyfrliwio'r co'
heb na ffrâm na bach a llygad i'w pwyo


Mae pwysigrwydd cael cerddi Cymraeg a Saesneg ochr yn ochr yn hanfodol – yn wleidyddol yn ogystal ag yn ymarferol (aesthetically).

Mae cyfieithiad Elin ap Hywel yn rhoi i mi gerdd Saesneg sy'n sefyll ar ei thraed ei hun, ond dyw hi ddim yn rhoi i mi drefn odli dynn Menna Elfyn. Nid beirniadaeth yw hyn, dim ond sylw.

Fe glywais yn ddiweddar fod y bardd a'r ymgyrchydd a'r enillydd gwobr Nobel o Fecsico, Octavio Paz, yn credu mai dyletswydd sgrifennwr oedd gosod pethau mewn carreg. Dyletswydd y cyfieithydd, meddai, yw eu rhyddhau nhw.

Mae'r gwaith yna o ryddhau yn bwysig iawn. Fel y dywedodd y bardd o Gaerdydd, Gwyneth Lewis, "Nid yr hyn sy'n cael ei golli trwy gyfieithu ydi barddoniaeth, ond yr hyn sy'n cael ei ennill."

Mae'r broliant ar gefn y gyfrol, Cusan Dyn Dall yn gosod Menna Elfyn yn rhwydd ymysg beirdd amlyca' Ewrop. Er ei bod hi'n gallu ymddangos yn ddigywilydd i ddweud pethau o'r fath am feirdd sy'n dal i fod yn fyw, mae yna reswm tros wneud gyda Menna Elfyn .

Mae ei gwaith yn llawn egni, deallusrwydd, didwylledd ac ehangder y gallai nifer o sgrifennwyr ddysgu llawer o'i darllen.


| GOLWG - Mai 2001 |