Bardd Plant, Rebel a Gwersyll Ffoaduriaid yn Israel

Un o feirdd mwyaf llwyddiannus Cymru, a Chymraes sy'n adnabyddus ledled y byd erbyn hyn, diolch i'w theithiau tramor niferus, yw Menna Elfyn.  Mae'r bardd o Landysul, sy'n adnabyddus oherwydd iddi gyhoeddi llawer o'i cherddi'n ddwyieithog, yr un mor boblogiadd gyda darllenwyr di-Gymraeg â chyda'r Cymry Cymraeg.  Ond eleni, plant Cymru yw ei chynulleidfa fwyaf, gan iddi gael ei phenodi'n fardd Plant Cymru 2002-3, y ferch gyntaf i dderbyn yr anhrydedd ers sefydlu'r swydd dair blynedd yn ôl.  Yn ogystal â barddoni, mae hi'n ysgrifennu nofelau i blant ac ar Ddydd Mawrth 3 Rhagfyr bydd Menna yn lansio ei nofel Rana Rebel yng nghwmni plant Ysgol Gyfun Abergwaun, Sir Benfro.

Wedi teithio i bedwar ban byd a mentro tu hwnt i lwybrau twristaidd gwledydd pur ansefydlog, mae Menna yn ymgyrchwraig frwd dros hawliau merched a'r lleiafrifoedd ledled y byd, yn enwedig plant.  Ble bynnag y bydd hi'n teithio, mae'n ceisio cael argraff real o wlad, sut mae tlodion, pobol anffodus a lleiafrifoedd yn byw, a pha broblemau sy'n dod i'w rhan.  Dyma a'i hysgogodd i ysgrifennu ei nofel newydd i blant yn eu harddegau, Rana Rebel.

 'Mater o raid oedd ysgrifennu Rana Rebel.'  meddai Menna, heb betruso  Mae pob cymdeithas wedi anwybyddu hawliau sylfaenol plant i gael eu clywed, eu credu, eu parchu... nid eiddo mohonynt. Mae Rana Rebel yn son am bwnc nad yw'n neis iawn. Am ryw reswm mae anhawster y pwnc yn atyniad  Ond rhaid pwysleisio mai ysgrifennu stori own i a bod ystyriaethau gwleidyddol a chymdeithasol yn toddi i gefndir y meddwl pan fo rhywun yn dechrau byw y cymeriadau... '

Mae terfysgaeth wedi tyfu'n ofid mawr i bawb erbyn hyn, ac mae Rana Rebel yn stori amserol iawn gan ei bod yn treiddio i fyd terfysgwyr ac yn gofyn cwestiynau dyrys ynghylch eu cymhellion.  Beth ar y ddaear sy'n gwneud i rywun aberthu ei fywyd ac i ladd eraill er mwyn gwneud safiad dros achos? Rebel yw Rana, y prif gymeriad, rebel i'r carn. Mae hi'n bymtheg oed erbyn hyn, ond bu'n byw bywyd milwr er pan oedd hi'n ferch fach, yn lladd y gelyn ac yn osgoi cael ei lladd.  Mae popeth yn troi'n gymhleth iddi pan ddaw ar draws dau fachgen anobeithiol o ddiniwed.  Beth ddylai hi ei wneud â nhw, gofalu amdanynt ynteu eu gadael ar drugaredd y gelyn?

Mae'n peri syndod i bobl y Gorllewin yn aml fod plant a phobol ifanc mor barod i fynd yn filwyr, ond mae Menna Elfyn wedi profi hyn yn Sri Lanka, gyda Theigrod Tamil, ac yn y Dwyrain Canol,  Mae'n ddiddorol nodi bod elw Rana Rebel yn mynd i gynnal gweithgareddau llenyddol mewn gwersyll i ffoaduriaid ar dir y Palestiniaid ar y Lan Orllewinol, yn Israel. 'Camp Aida'.

Yn eironig iawn, fe fydd y nofel hon yn anrheg gwych i bobl ifanc Cymru wrth ddathlu'r Nadolig yn eu moethusrwydd a'u hwyl.

Am fanylion pellach neu lun o'r clawr/lansiad cysylltwch â Meinir Garnon James 01559 362371 meinir@gomer.co.uk