![]() |
|||
| Bloeddier
i Bobloedd y Byd A sylwoch mor ddiamser yw dyn wrth ddod at iaith newydd? Bydd, fe fydd yn baglu dros gytseiniaid, yn gohirio llafariaid, yn gwisgo holl arfogaeth ei ddyhead am fuddugoliaeth dros fynegiant. A bydd, fe fydd ei dafod fel baban bach ar ei ben ôl. Felly, bydded i bob un o genhedloedd byd ddysgu iaith esgymun ei gymydog. Ie, cropian a chwrian mewn corneli, colli cwsg wrth ei thrwsglo; cans fel hyn y daw dileu yr amserau. Ni ddaw'r gorffennol yn rhwydd ar dafod. Erys iaith heddiw. Bydd yn ddeiseb hedd gan dynnu i lawr yr holl ferfau pigog; ni fyd yr amherffaith mor berffaith a phan nad yw. A bydd agen, hollt a rhwyg yn cael eu cyfrannu'n geg agored. Pob newydd ddysgwr â chof am gyweirio cystrawennau cyfod o'i wely, unioni llef. Ni fydd amser i ledu llid, cans bydd llwythau wedi eu llethu â chyfoeth yr holl gerrig arloesi. A thrwy'r babanod yn Babel bydd iau wedi ei chodi a'r Uniaith yn iachâu wrth ymryddhau, rhyddhau wrth hau. |
|
||