![]() |
|||
| Cân
y di-lais i British Telecom Ga i rif yng Nghaerdydd, os gwelwch Speak up! GA I RIF YNG NGHAER- Speak up- youll have to speak up. Siarad lan , wrth gwrs, ywr siars I siarad Saesneg. Felly, dedfrydaf fy hun i oes O anneall, o ddiffyg llefaru, Ynganu, na sain, na si Na goslef, heb son am ganu, Chwaith fyth goganu, llafarganu, Di-lais wyf, heb im grasnodau Na mynegiant, na myngial. Cans nis oes im lais litanir hwyr, Dim llef gorfoledd boreol, Nac egni cryg syn cecian yn y cyfnos. Atal dweud? Na. Dim siarad yn dew, Dim byrdwn maleisus, na moliannu. Ac os nad oes llef gennyf i Ofer yw tafodau rhydd fy nheulu, Mudanwyr ym, mynachod, Syn cyfrinia mewn cilfachau. Ym mhellter ein bod hefyd Mae iaith yr herwr Yn tresmasu, ei sang yn angel du, Gyrrur gwaraidd- ar ffo. Wrth sbion saff, ar y sgrin fach Gwelaf fod cenhedloedd mewn conglau mwy Yn heidion ddieiddo; Cadachau dros eu cegau, Cyrffiw ar eu celfyddyd, Alltudiaeth sydd iw lleisiau, A gwelaf fod y Gymraeg rhyngom ni. Ar tro nesa y gofynnir imi Siarad lan, Yn gwrtais, gofynnaf ir lleisydd Siarad lawr, I ymostwng ir gwyleidd-dra Y gwyddom amdano, fel ein gwyddor. Ac fel efydd yn seinio Awgrymaf, nad oes raid wrth wifrau pigog, Bod i iaith wefrau perlog, A chanaf, cyfathrebaf Mewn cerdd dant, Yn null yr ieithoedd bychain; Pobl yn canu alaw arall Ar draws y brif don, Er uched ei thraw, Gan orffen bob tro Yn gadarn , un-llais, Taror un nodyn- ar un nwyd, Gan mai meidrol egwan ein mydrau. A nawr, a ga i- Y rhif yna yng Nghaerdydd. |
|
||