![]() |
|||
| Cyplau Murddun yw byw. Ninnau, mynnwn ei drwsio at ddiddosrwydd. Gyda'n dwylo ei saernïo at frig adeilad. Nes clymu o dano nenbren a wylia holl fynd a dod ein byw heb wybren. Dau rwymyn cam. Naddwyd hwy yn gyfan yn gyffion cytun. Yn drawstiau llyfn a llydan. Cyfarfod dau. Dyna'r grefft a fagwn wrth amgau dros ffrâm ddau gnawd. Gan asio'r llyfnus gyplau sydd weithiau'n enfysu'n un. Ar ogwydd, uwch yr oerfyd geubrennau'n chwiffio serch. Yna'n stond am ennyd. A'r to mor elwig ar dro yn gwichian cariad wrth ddwrdio'r gwynfyn draw. I aros tro ei gennad. |
|
||