![]() |
|||
| Siapiau
o Gymru Ei diffinio rown Ar fwrdd glân, Rhoi ffurf iw ffiniau, Ei gyrru iw gororau Mewn inc coch; Ac meddai myfyriwr o bant, Its like a pig running away; wedi bennu chwerthin, rwyn ei chredu; y swch gogleddol yn heglun gynt nar swrn deheuol ar ffo rhag y lladdwyr. Siapiau yw hi , siwr iawn: Yr hen geg hanner rhwth Neur fraich laes ddiog Syn gorffwys ar ei rhwyfau; Y jwmpwr, wrth gwrs, ar ei hanner, Gweill a darn o bellen ynddi, Ynteun debyg i siswrn Parod iw ddarnioi hun; Cyllell ddeucarn anturiaethydd, Neu biser o bridd Craciedig a gwag. A lluniau amlsillafog Ywr tirbeth o droeon A ffeiriaf âm cydnabod A chydar estron Syn ei gweld am yr hyn yw: Digri o wasgaredig Sy Am Fy Mywyd Fel bwmerang diffael yn mynnu Mynnu Ffeindioi Ffordd Yn Ol At Fy nhraed. |
|
||