![]() Cerddoriaeth gan Iwan Evans |
Malwod
Mawr!
Fe fydd drama gomedi newydd yn cael ei llwyfannu yn neuaddau’r cylch rhwng yr 8fed a’r 13eg o Dachwedd eleni. Trigolion pentrefi lleol sydd yn cymryd rhan yn Malwod
Mawr! gan Menna Elfyn, sioe sydd yn trin a thrafod bywyd cefn gwlad
Sir Gâr. Dafydd Hughes sydd yn cyfarwyddo, gyda cherddoriaeth gan Iwan Evans. Fe fydd offer cyfieithu ar gael i’r di-Gymraeg. Am noson o adloniant arbennig, archebwch eich tocynnau (£4) drwy gysylltu â swyddfa’r Fenter ar (01267) 676831 neu e-bostiwch i.evans@drindod.ac.uk. Neuadd Llandyfaelog - Nos Lun 8 Tachwedd 2004, 7.30
pm |